Exodus 3

Duw yn galw Moses

1Roedd Moses yn gofalu am ddefaid a geifr ei dad-yng-nghyfraith, Jethro, offeiriad Midian. A dyma fe'n arwain y praidd i'r ochr draw i'r anialwch. Daeth at fynydd Duw, sef Mynydd Sinai.
3:1 Sinai Hebraeg, “Horeb”, sef enw arall ar fynydd Sinai.

2Yno, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos iddo o ganol fflamau perth oedd ar dân. Wrth edrych, roedd yn gweld fod y berth yn fflamau tân, ond doedd hi ddim yn cael ei llosgi. 3“Anhygoel!” meddyliodd. “Rhaid i mi fynd yn nes i weld beth sy'n digwydd – pam nad ydy'r berth yna wedi llosgi'n ulw.” 4Pan welodd yr Arglwydd ei fod yn mynd draw i edrych, dyma Duw yn galw arno o ganol y berth, “Moses! Moses!”

“Dyma fi,” meddai Moses.

5A dyma Duw yn dweud wrtho, “Paid dod dim nes. Tynn dy sandalau; ti'n sefyll ar dir cysegredig!” 6Yna dyma fe'n dweud, “Fi ydy Duw dy dad; Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.” A dyma Moses yn cuddio ei wyneb, am fod ganddo ofn edrych ar Dduw.

7Yna meddai'r Arglwydd wrtho, “Dw i wedi gweld sut mae fy mhobl i'n cael eu cam-drin yn yr Aifft. Dw i wedi eu clywed nhw'n gweiddi wrth i'w meistri fod yn gas atyn nhw. Dw i'n teimlo drostyn nhw. 8Felly dw i wedi dod lawr i'w rhyddhau nhw o afael yr Eifftiaid. Dw i'n mynd i'w harwain nhw o wlad yr Aifft, a rhoi gwlad dda, eang iddyn nhw – tir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo! Yr ardaloedd ble mae'r Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid yn byw. 9Dw i wedi clywed cri pobl Israel am help, a dw i wedi gweld mor greulon ydy'r Eifftiaid atyn nhw. 10Felly tyrd. Dw i'n mynd i dy anfon di at y Pharo, i arwain fy mhobl, pobl Israel, allan o'r Aifft.”

11Dyma Moses yn dweud wrth Dduw, “Fi? Pwy ydw i i fynd at y Pharo, ac arwain pobl Israel allan o'r Aifft?”

12“Bydda i gyda ti, dw i'n addo,” meddai Duw. “A dyna fydd yr arwydd clir mai fi wnaeth dy anfon di: Pan fyddi di wedi arwain y bobl allan o'r Aifft, byddwch chi'n fy addoli i ar y mynydd yma.”

13Ond dyma Moses yn dweud, “Ond os gwna i fynd at bobl Israel a dweud wrthyn nhw, ‘Mae Duw eich hynafiaid chi wedi fy anfon i atoch chi,’ byddan nhw'n gofyn i mi, ‘Beth ydy ei enw e?’ Beth ddylwn i ddweud wedyn wrthyn nhw?”

14A dyma Duw yn ateb Moses, “FI YDY'R UN YDW I. Rhaid i ti ddweud hyn wrth bobl Israel, ‘FI YDY sydd wedi fy anfon i atoch chi.’” 15A dyma fe'n dweud hefyd, “Rhaid i ti ddweud wrth bobl Israel, ‘Yr Arglwydd, Duw eich hynafiaid, sydd wedi fy anfon i atoch chi. Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob. Dyma fy enw i am byth, a'r enw fydd pobl yn ei gofio o un genhedlaeth i'r llall.’

16“Dos i alw arweinwyr Israel at ei gilydd, a dweud wrthyn nhw, ‘Mae'r Arglwydd, Duw eich hynafiaid, wedi ymddangos i mi – Duw Abraham, Isaac a Jacob. Mae'n dweud, “Dw i wedi bod yn cadw golwg arnoch chi. Dw i wedi gweld sut ydych chi'n cael eich trin yn yr Aifft. 17A dw i'n addo eich rhyddhau chi o'r caledi yn yr Aifft, a'ch arwain chi i'r wlad ble mae'r Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid yn byw. Mae'n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo!”’

18“Bydd yr arweinwyr yn dy gredu di. Wedyn bydd rhaid i ti ac arweinwyr Israel fynd at frenin yr Aifft, a dweud wrtho, ‘Mae'r Arglwydd, Duw yr Hebreaid, wedi cyfarfod gyda ni. Felly, plîs gad i ni deithio i'r anialwch am dri diwrnod, er mwyn i ni aberthu i'r Arglwydd ein Duw.’

19“Dw i'n gwybod yn iawn na fydd brenin yr Aifft yn gadael i chi fynd, dim hyd yn oed dan bwysau. 20Felly bydda i'n defnyddio fy nerth i daro'r Aifft gyda gwyrthiau rhyfeddol. Bydd e'n eich gyrru chi allan wedyn! 21Bydd pobl yr Aifft yn rhoi anrhegion i bobl Israel, felly fyddwch chi ddim yn gadael yn waglaw. 22Bydd gwraig yn gofyn i'w chymdoges a'r un sy'n lletya gyda hi am bethau arian ac aur, ac hefyd am ddillad. Bydd eich meibion a'ch merched yn eu gwisgo nhw. Byddwch yn cymryd y cwbl oddi ar bobl yr Aifft!”

Copyright information for CYM